Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Llun, Tachwedd 04, 2024

Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan

Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn derbyn hyfforddiant blynyddol ac maent yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os ceir pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam- drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu Plant Cymru Gyfan, i sôn am y mater wrth y Swyddog Diogelu Plant sy’n hysbysu’r Prifathro.

Bydd y Prifathro yn ymgynghori â chydweithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i’r Prifathro gyfeirio yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau Cymru Gyfan a phrotocol lleol. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio. Oherwydd natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio’r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.

Amddiffyn Plant

  • Athro â Chyfrifoldeb Penodedig: Mrs Helen Griffith (Prifathro Cynorthwyol)
  • Dirprwyon: Prifathro, Dirprwy Brifathro, Arweinydd CA4, Arweinwyr Blwyddyn, Llywodraethwr cyswllt

Mae athrawon yn gweld plant bob dydd ac yn ymwybodol o’u datblygiad yn gyffredinol. Maent felly mewn safle gwych i fedru sylwi ar unrhyw newid yn ymarweddiad plentyn a all ddynodi fod yna rywbeth o’i le. Gall fod eglurhad syml am y newid ond mae angen i athrawon fod yn effro gan ymateb i unrhyw arwydd o anhapusrwydd, niwed neu esgeulustod.

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei ddiogelu rhag ei gam-drin.

  • trin pob plentyn gyda pharch
  • gosod esiampl dda trwy gynnal ein hunain yn briodol
  • sicrhau bod y staff yn fodelau rôl gadarnhaol i blant
  • annog ymddygiad cadarnhaol a diogel ymhlith plant
  • bod yn wrandäwr da
  • bod yn effro i newidiadau yn ymddygiad plentyn
  • cydnabod gall ymddygiad heriol fod yn arwydd o gam-drin
  • darllen dogfennau diogelu ac arweiniad y lleoliad ar faterion diogelu ehangach, er enghraifft cyswllt corfforol a rhannu gwybodaeth
  • bod yn ymwybodol bod yr amgylchiadau a ffordd o fyw rhai plant a theuluoedd yn arwain at gynnydd yn y perygl o esgeulustod a cham-drin
  • codi ymwybyddiaeth o faterion amddiffyn plant ac arfogi plant gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gadw eu hunain yn ddiogel
  • sefydlu amgylchedd diogel lle gall plant ddysgu a datblygu, yn enwedig eu hyder a’u hunan – barch

Byddwn yn cefnogi plant a’u teuluoedd a staff drwy:

  • gymryd yr holl amheuon a datgeliadau o ddifri
  • ymateb gyda chydymdeimlad i unrhyw gais gan
  • aelod o staff am amser i ddelio â gofid neu bryder
  • cynnal cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth ar sail angen i wybod yn unig gydag unigolion ac asiantaethau perthnasol
  • storio cofnodion yn ddiogel
  • cynnig manylion llinellau cymorth, cwnsela/ddulliau eraill o gymorth allanol

Gweler y copi cyflawn o’n Polisi Diogelu isod:

amddiffyn plant

The Basic Skills Agency Quality Mark

Invertor in People Buddsoddwr Mewn Pobl

Eco Schools - Eco Sgolion

Welsh Network of Healthy Schools  - Cynlluniau Ysgolion Lach Rhwydwaith Cymru

PDPA APLP