Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Mawrth, Mai 14, 2024

Cysylltir cyflawniad yn aml gyda lefel presenoldeb uchel. Pwysleisir pwysigrwydd presenoldeb a phrydlondeb yn gyson drwy’r flwyddyn.

Rydym yn gofyn yn garedig i chi gysylltu a’r ysgol drwy adael neges ar ein peiriant ateb os yw eich plentyn yn absennol ar unrhyw ddiwrnod. Os yw presenoldeb eich plentyn yn disgyn o dan ein targedau ni fel ysgol yn ystod y flwyddyn byddwn yn cysylltu a chi ar ffurf galwad ffôn neu lythyr. Os oes pryder am bresenoldeb eich plentyn byddwn yn hysbysu ein Swyddog Presenoldeb, Mrs Elisabeth Ryder, a bydd hi’n cysylltu a chi i drafod ymhellach.

Rydym yn gofyn i rieni i:

  • Gynnal arferion da o bresenoldeb cyson a phrydlondeb gan eich plant.
  • Cysylltu â’r ysgol cyn 10 o’r gloch y bore ar ddiwrnod cyntaf unrhyw absenoldeb o’r ysgol. (Ffoniwch 01443 680800 os gwelwch yn dda).
  • Os na dderbynir galwad ffôn, bydd yr ysgol yn cysylltu â’r rhieni.
  • Gofynnir i rieni beidio â mynd â’u plant allan o’r ysgol ar gyfer gwyliau.
  • Tra yn yr ysgol – ystyrir unrhyw absenoldeb o wers heb ganiatâd yr athro yn “driwantio”.
  • Lle’n bosibl, gofynnwn i rieni osgoi trefnu apwyntiad meddygol yn ystod oriau ysgol.

Mae’n rhaid i ddisgyblion gyrraedd eu cyfnod cofrestru yn brydlon am 08:40. Mae’n hanfodol i unrhyw blentyn sydd yn cyrraedd safle’r ysgol yn hwyr arwyddo mewn yn y gofrestr yn y brif swyddfa.

Presenoldeb cyson yn yr ysgol ydy’r ffactor mwyaf pwysig i lwyddiant eich plentyn.

presenoldebbach

Gofynnwn i chi ystyried yn ddwys cyn cymryd plant o’r ysgol am wyliau yn ystod y tymor. Gwerthfawrogir bod yna gyfnodau pan mae hyn yn anorfod, ond yn gyson fe ddengys ymchwil bod plant sy’n colli ysgol dan anfantais.

  • School Holiday Form

Please print out and return to the main office.

Ffurflengwyliau22 copy

polisipresenoldeb

The Basic Skills Agency Quality Mark

Invertor in People Buddsoddwr Mewn Pobl

Eco Schools - Eco Sgolion

Welsh Network of Healthy Schools  - Cynlluniau Ysgolion Lach Rhwydwaith Cymru

HWB Rygbi

PDPA APLP