Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Sadwrn, Medi 23, 2023

Sylweddolwn nad yw hi bob amser yn hawdd i ddisgyblion newid o’r ysgol y maent wedi bod ynddi ers blynyddoedd i un llawer mwy a dieithr. O ganlyniad rydym fel ysgol yn gosod pwyslais mawr ar y gwaith yma. Sefydlwyd perthynas hapus ac agos â’n hysgolion cynradd a mae’r ysgolion yn cydweithio’n agos i wneud yn siwr fod pob disgybl yn ymgartrefu mor gyflym â phosib.

Pump ysgol gynradd sydd yn bwydo’r ysgol hon; Bodringallt, Bronllwyn, Llwyncelyn, Llyn y Forwyn ac Ynyswen. Daw disgyblion atom hefyd o Donyrefail.

Mae’r ysgol wedi datblygu rhaglen benodol er mwyn helpu eich plentyn symud o un ysgol i’r llall:

  • Mae uwch dîm arwain yr ysgol yn cwrdd â’r rhieni newydd ddwywaith; unwaith yn yr ysgol gynradd ac unwaith yma yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

  • Daw’r disgyblion yma i dreulio diwrnod yn ystod tymor yr haf er mwyn cwrdd â’u Tiwtor Dosbarth a mynychu rhai gwersi penodol

  • Yn ystod wythnosau cyntaf tymor yr Hydref fe drefnir Cwrs Haf i’r disgyblion newydd i gyd lle cânt ddod i adnabod ei gilydd a’u hathrawon newydd mewn sefyllfa anffurfiol

  • Cynhelir cyfarfodydd clwstwr a chynhelir cyfarfodydd Penaethiaid yn rheolaidd a cheir cydweithio da rhwng adrannau a’r cydlynydd Anghenion Arbennig

  • Sicrheir llif helaeth o wybodaeth rhwng yr ysgolion er mwyn sicrhau addysg didor ar gyfer eich plentyn

  • Mae ein Gweithiwr Pontio’r Clwstwr (Ms Helen Miller) yn gweithio o fewn holl ysgolion y clwstwr i sicrhau proses bontio effeithiol a llyfn i bob disgybl – mae Ms Miller yn treulio Tymor 2 a 3 o Flwyddyn 6 yn gweithio yn yr ysgolion cynradd cyn treulio Tymor 1 o Flwyddyn 7 yn cynorthwyo’r disgyblion yma yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

  • Gwneir pob ymdrech i sicrhau ein bod yn ymateb yn gyflym i anghenion pob disgybl unigol a thrwy hynny sicrheir fod pob disgybl yn ymgartrefu mor gyflym â phosib

Edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu i Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

Tîm Pontio Ysgol Gyfun Cwm Rhondda Transition Team

  • Pennaeth Cynorthwyol (pontio) – Helen Griffith
  • Arweinydd Blwyddyn 7 – Delyth Seaton
  • Athro Pontio – Stephanie Jones
  • Dirprwy Brifathro (CADY) – Osian Griffith

Trydar Pontio

Cofiwch ddilyn cyfrif Pontio’r Ysgol ar @PontioYGCR1 ac ein cyfrif ysgol @YGCwmrhondda

Cysylltwch  Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydyn yn gallu bod o unrhyw gymorth, cysylltwch â ni ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gwybodaeth Pontio:

 

 

Trefnydd Disgybl Cwm Rhondda


 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwisg Chwaraeon - Ar gael o UDesign

Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Marc Safon
Buddsoddwr Mewn Pobl
Eco Sgolion
Cynlluniau Ysgolion Tach Rhwydwaith Cymru

PDPA APLP