Croeso
Yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda anelwn at sicrhau’r gorau i’n disgyblion, ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Mae ein staff brwd, ymroddgar, y filltir ychwanegol, yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cyrraedd y safonau gorau a fedrant, sy’n eu paratoi ar gyfer addysg gydol oes. Mae pob unigolyn yn bwysig i ni yma, ac anelwn at ddatblygu pob sgil, medr, a gallu, trwy ddarpariaeth addysgol a chyfleoedd eang a chyffrous sy’n gweddu’r unfed ganrif ar hugain. Mae dwyieithrwydd rhugl ein disgyblion yn destun balchder i ni.
Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n bodolaeth yma. Parch at ein hunain, parch at eraill, a’n hamgylchfyd. Parch at ein hiaith, ein gorffennol, a’n diwylliant unigryw. Ymfalchiwn yn ein hunaniaeth a chyrhaeddiadau’n gilydd. Anelwn at greu amgylchfyd gwaraidd sy’n hybu lles a datblygiad pawb yn ein cymuned.
Mae’n partneriaethau’n bwysig i ni. Mae ein partneriaeth agos gyda’r cartref yn allweddol i ni er mwyn sicrhau safonau uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol, a chynhaliaeth ystyrlon ar gyfer ein disgyblion. Mae'r wefan hon yn gam pwysig tuag at sefydlu'r berthynas hanfodol honno.
Dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i'n disgyblion fel aelodau o deulu Cwm Rhondda.
Craig Spanswick
Prifathro
Llythyron Diweddar
Dyddiadau Pwysig
-
Diwrnod HMSGwe. 24 Meh, 2022 12:00 am
-
Inset DayGwe. 24 Meh, 2022 12:00 am
Cysylltiadau Defnyddiol
Eye to Eye - Gwasanaeth Cwnsela ar gyfer Pobl Ifanc
Cliciwch yma ar gyfer - "Eye to Eye’s New Covid-19 Response Team"
Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant RCT
YEPS
Wicid.tv - Rhestr adnoddau gyrfaoedd i ddisgyblion a rhieni:




