Fel y gwyddoch, mae hi nawr yn amser pwysig iawn. Mae'r arholiadau TGAU ar y gorwel agos ac mae angen i chi a'ch teulu wneud penderfyniadau anodd yn ystod y misoedd nesaf ynglŷn â'r dyfodol.
Beth bynnag fydd canlyniadau arholiadau yr haf hwn, gobeithiwn y bydd Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn rhan bwysig o'ch trafodaethau ynglŷn â'r dyfodol. Fel ysgol, byddwn yn cynnig amrywiaeth eang a diddorol o gyrsiau ym Mis Medi ynghyd â chyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol i'r myfyrwyr. Ein bwriad yw darparu rhywbeth i bob disgybl, beth bynnag fo'u gallu, fel y gallant adael yr ysgol â chymwysterau gwerthfawr a pherthnasol i'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r ysgol yn cynnig cyfleoedd unigryw i'r myfyrwyr, er enghraifft:
- Ethos ysgol gadarn sy'n seiliedig ar barch, dealltwriaeth a goddefgarwch
- Ystod eang o gyfleoedd academaidd, personol a chymdeithasol i sicrhau datblygiad cyflawn yr unigolyn, mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. Rhoddir cyfle i bob disgybl ar draws addysg yr holl ystod gallu i ddatblygu'r camau nesaf a gosod sylfeini am addysg dros oes.
Addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac mewn awyrgylch Gymreig. Does dim un sefydliad arall yn medru cynnig hyn yn yr ardal. Efallai mai dyma fydd y cysylltiad olaf caiff y myfyrwyr â sefydliad cyfrwng Cymraeg. Mae addysg chweched dosbarth yn y Cymer yn debygol o atgyfnerthu'r datblygiad ieithyddol a wnaeth ein disgyblion yn yr ysgol gynradd, isaf a'r ysgol ganol. Dylai addysg chweched dosbarth Cymraeg ddiogelu bod y myfyrwyr yn gallu bod yn ddinesyddion hyblyg a dwyieithog yn ein cymunedau. Cofiwn hefyd fod gweithredu'r Ddeddf Iaith yn gosod pwysigrwydd cynyddol ar yr iaith ym myd masnach a busnes. Mae mantais sicr yn y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn y farchnad swyddi yng Nghymru. - Bydd myfyrwyr sydd yn dychwelyd i'n chweched dosbarth ni yn dychwelyd i awyrgylch y maent yn gyfarwydd â hi. Gobeithiwn gynnig yr un lle, ond gwahanol amgylchfyd. Dylai'r ffaith bod y myfyrwyr yn gyfarwydd â'r staff a'r ysgol ddiogelu eu bod yn ymgartrefu yn gyflym. Yn ychwanegol at hyn, mae gan yr ysgol sustem fugeiliol a fydd yn fodd i'w cynorthwyo trwy eu haddysg chweched dosbarth.
Darpariaeth addysgol o'r safon uchaf.
Ein nod fel ysgol, yw adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, i ymestyn a chynyddu profiadau'r myfyrwyr ac i godi safonau'n bellach.
- Eisoes rydym wedi derbyn ymateb ffafriol oddi wrth nifer o fyfyrwyr a'u rhieni sy'n frwdfrydig i gadw cysylltiad â'r ysgol. Braint yw bod yn ysgol gyfun Gymraeg i'r Rhondda ac fe geisiwn barhau i gynhyrchu myfyrwyr dwyieithog a llwyddiannus i'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.