Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Mercher, Tachwedd 29, 2023

EIN GWELEDIGAETH: Dyheu. Dysg. Daioni.

Gellir mynegi’r weledigaeth ar gyfer ein hysgol mewn tri gair; “ Dyheu. Dysg. Daioni.” Mae’n amlinellu ein gweledigaeth a’n hymrwymiad clir i ragoriaeth, tegwch a lles ac mae’n crynhoi pedwar diben Cwricwlwm i Gymru y bydd ein holl blant a phobl ifanc yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.

 Datganiad Ysbrydol yr Ysgol

  • Boed i ni yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ymfalchïo yn ein hiaith, ein cenedl, ein gwlad
  • Helpwn ein gilydd ym mhob sefyllfa, heb ystyried crefydd, cred, hil, neu liw.
  • Ymdrechwn ein gorau ym mhob maes, yn academaidd neu’n allgyrsiol.
  • Dymunwn i bawb fod yn hapus a chyfforddus yng nghwmni ei gilydd, trwy barchu a thrin eraill fel y dymunwn gael ein trin.
  • Dilynwn ein breuddwydion er mwyn cyrraedd ein nod.
  • Gwnawn ddewisiadau doeth er mwyn sicrhau llwyddiant ym mhob peth.
  • Gweithiwn yn gytûn er mwyn gwneud Cwm Rhondda a Chymru’n falch ohonom.
  • Cydnabyddwn mai nyni yw’r dyfodol, a nyni a geidw olwyn treftadaeth i droi.
Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Marc Safon
Buddsoddwr Mewn Pobl
Eco Sgolion
Cynlluniau Ysgolion Tach Rhwydwaith Cymru

PDPA APLP