Trefnir nifer o weithgareddau amrywiol tu hwnt i oriau gwersi yn ystod amser cinio ac or ôl ysgol. Cynigir cyfle i bawb i ymwneud â’r rhain. Mae’n ffaith mai’r mwyaf o amser y treulia plentyn yn siarad Cymraeg, y gorau y bydd ei feistrolaeth o’r iaith.
Mae amrediad eang o gyfleoedd a phrofiadau ar gael i bawb:
- Rygbi, athletau, sgio, pel-rwyd, hoci, dawns, pel-droed, nofio, rownderi
- Côr yr Ysgol
- Cynyrchiadau drama/cerddorol yr ysgol gyfan
- Ymweliadau addysgol
- Cyrsiau preswyl e.e. Llanbed, Glanllyn, Efrog Newydd , Canada
- Clybiau Ysgol e.e.cyfrifiaduron, gwaith cartref, drama, Sbaeneg/Almaeneg, adolygu
- Cerddorfa Ysgol
- Eisteddfod yr Ysgol/Urdd
- Diwrnodau Pontio
- Cystadlaethau llenyddol/Diwrnod y Beirdd/Ffeiriau Llyfrau
- Menter yr Ifanc
- Profiad Gwaith
- Cymer ofal (Cynghori Cyfoedion)
- Diwrnodau a Weithgareddau Niferedd/Llythrennedd
- Cystadlaethau Siarad Cyhoeddus
- Cyngor Yr Ysgol
- Gwaith Elusennol
- Cyrsiau Sgiliau Astudio