Gweithio Gyda’n Gilydd
Rydym yn credu yn gryf fod plant yn cyflawni mwy pan fydd yr ysgol a rhieni yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau hapusrwydd a llwyddiant bob plentyn. Mae'r berthynas agos a phositif sydd wedi datblygu rhwng yr ysgol, y rhieni, a’n disgyblion, yn tanlinellu hyn.
Nod y cytundeb Cartref/Ysgol yw egluro'r hyn y mae'r ysgol yn anelu at ei gyflawni, ac egluro rôl yr Ysgol, Rhieni a Disgyblion yn y bartneriaeth hollbwysig hon.
Disgyblion-Rhieni-Ysgol > Llwyddiant trwy Bartneriaeth
Athroniaeth o bartneriaeth sydd gennym yma ac fel ym mhob perthynas dda, mae’n rhaid i bawb gyfrannu.
Mae ein cytundeb Cartref/Ysgol yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu ein partneriaeth. Ceisiwn egluro amcanion yr ysgol, a hefyd egluro rôl:
- yr Ysgol
- Y rhieni / Gwarcheidawaid
- a’r disgyblion yn y bartneriaeth hollbwysig hon.
Drwy gyd-weithio rydym yn gallu cynnig yr allwedd i ddyfodol mwy disglair i’n disgyblion.