Yn ei hysgol ni, mae Cymru, yr iaith Gymraeg a’n diwylliant, a pharch at eraill a’n hunan wrth wraidd popeth a wnawn. Trwy ofalu am ein gilydd a’n hamgylchfyd, fe grëwn amylchedd gwaraidd a chefnogol a fydd yn caniatau i bob unigolyn yng nghymuned yr ysgol ddatblygu i’w lawn botensial, a theimlo’n gyfforddus gyda’i bersonoliaeth a’i hunaniaeth.
Y Gymraeg yw iaith yr ysgol - iaith y gwersi, iaith gweinyddiaeth, iaith gyfathrebu yr athrawon a’r disgyblion, a’r disgyblion â’i gilydd. Mae’r ffaith eich bod wedi dewis anfon eich plentyn i Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn golygu:
-
bydd eich plentyn yn gallu siarad dwy iaith ac yn profi dau ddiwylliant
-
yn meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol
-
gwella cyfle am swyddi
-
gall person dwyieithog gyfathrebu gydag ystod eang o bobl
-
ymgymryd â phob agwedd o fywyd cymunedol.