Rheol yr ysgol yw “Hanfod Ymddygiad Teilwng yw Rhoi a Derbyn Parch”. Disgwyliwn i bob aelod o gymuned yr ysgol barchu’r rheol hon.
Canmolir disgyblion am ymddygiad da a disgwylir ac anogir ymddygiad da. Prif ffocws yr ysgol yw i annog, canmol a gwobrwyo disgyblion o fewn ethos gadarnhaol.
Mae Disgyblaeth Gadarnhaol yn ymwneud â'r canlynol:
- YMDDYGIAD DA
- PRESENOLDEB CYSON
- PRYDLONDEB
- GWISG YSGOL GYWIR
- AGWEDD GADARNHAOL TUAG AT WAITH
- CWBLHAU GWAITH CARTREF / DOSBARTH / GWAITH CWRS
Mae’r rhain yn agweddau holl bwysig a rhaid I’r cartref a’r ysgol gefnogi ei gilydd er mwyn sicrhau'r cynnydd gorau posibl i bob disgybl. Wrth weithio gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod y disgyblion yn cyrraedd eu llawn botensial yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.
Seilir ein polisi ymddygiad a disgyblaeth ar ethos o barch a chyd-barch. Gweler y polisi ar gyfer gwybodaeth bellach:
Polisïau