Yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda credwn fod dysgu gwisgo’n briodol yn rhan o addysg dda sy’n cyfranogi at ddatblygiad hunan ddisgyblaeth. Mae gwisg ysgol yn gosod hinsawdd o safonau uchel a threfn yn yr ysgol. Disgwylir i ddisgyblion wisgo gwisg ysgol lawn trwy’r amser yn yr ysgol.
-
Crys ysgol glas golau
-
Tei swyddogol yr ysgol
-
Siwmper las (nefi) neu gardigan swyddogol yr ysgol (gwddf V, bathodyn wedi ei wau i mewn)
-
Sgert las tywyll (nefi) hyd at y ben-glin (Dim sgertiau tynn / byr)
-
Trowsus ffurfiol llwyd tywyll / nefi plaen (Dim ‘jeans’ neu ‘leggings’ ayb))
-
Siorts ffurfiol plaen nefi / llwyd tywyll neu ddu (Tymor yr Haf yn unig) (Dim siorts chwaraeon/logo)
-
Teits nefi trwchus neu sannau nefi hyd at y ben-glin
-
Crys polo ysgol glas golau (Tymor yr Haf yn unig) – ar gael o UDesign
-
Esgidiau ysgol du - dim esgidiau hyfforddi
-
Cot law blaen ddu neu las
Ni chaniateir gwisgo gemwaith / colur yn yr ysgol.
Ni chaniateir steil / lliw gwallt eithafol/annaturiol.
Grant Gwisg Ysgol
Mae grant dillad ysgol penodol ar gael ar gyfer disgyblion sydd a’u rhieni yn derbyn Cynhaliaeth Incwm. Ceir manylion pellach a ffurflenni cais oddi wrth yr ysgol.
Gwisg Ymarfer Corff - ar gael o UDesign
-
Siwmper hyfforddiant llewys hir twym (¼ zipper)
-
Crys ymarfer llewys hir aml gamp
-
Siorts ymarfer nefi
-
Crys-t ymarfer nefi (gwddf crwn)
-
Leggings nefi
-
Esgidiau hyfforddi addas
-
Sannau addas
-
Esgidiau rygbi / pêl droed (dewisol)
Offer Gyffredinol
Disgwylir i bob disgybl ddod â`r offer priodol i`r ysgol yn ddyddiol
-
Pen, pensil, pensiliau lliw, pren mesur,naddwr ,rwber, cyfrifianell,onglydd a chwmpawd.
-
Trefnydd Disgybl
-
Llyfr Darllen Cymraeg / Saesneg