Yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda anelwn at sicrhau’r gorau i’n disgyblion, ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Mae ein staff brwd, ymroddgar, y filltir ychwanegol, yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cyrraedd y safonau gorau a fedrant, sy’n eu paratoi ar gyfer addysg gydol oes. Mae pob unigolyn yn bwysig i ni yma, ac anelwn at ddatblygu pob sgil, medr, a gallu, trwy ddarpariaeth addysgol a chyfleoedd eang a chyffrous sy’n gweddu’r unfed ganrif ar hugain. Mae dwyieithrwydd rhugl ein disgyblion yn destun balchder i ni.
Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n bodolaeth yma. Parch at ein hunain, parch at eraill, a’n hamgylchfyd. Parch at ein hiaith, ein gorffennol, a’n diwylliant unigryw. Ymfalchiwn yn ein hunaniaeth a chyrhaeddiadau’n gilydd. Anelwn at greu amgylchfyd gwaraidd sy’n hybu lles a datblygiad pawb yn ein cymuned.
Mae’n partneriaethau’n bwysig i ni. Mae ein partneriaeth agos gyda’r cartref yn allweddol i ni er mwyn sicrhau safonau uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol, a chynhaliaeth ystyrlon ar gyfer ein disgyblion. Mae’r ysgol yn cyfuno gwerthoedd traddodiadol a disgwyliadau uchel. Y cyfuniad unigryw hwn, ynghyd â chreadigrwydd a blaengaredd, sydd wedi gosod yr ysgol ar flaen y gad o ran cynllunio cwricwlwm a dysgu ac addysgu. O ganlyniad, mae’n myfyrwyr yn unigolion cyflawn sy’n gweithio’n galed er mwyn llwyddo trwy wynebu heriau a gweithio’n annibynnol. Un o werthoedd sylfaenol yr ysgol yw “Hanfod ymddygiad teilwng yw rhoi a derbyn parch”, a dyma fan cychwyn ein hymdrechion i sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial.
Dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i'n disgyblion fel aelodau o deulu Cwm Rhondda.
Craig Spanswick
Prifathro