Cymer yn cefnogi elusen 'Achub y Plant'
Ar ddiwrnod olaf y tymor, mae staff a disgyblion wedi bod yn cefnogi'r elusen bwysig hon gan wisgo'i siwmperi Nadolig! Diolch bawb!
Ymgyrch 'Rhoi' Y Cymer
Yn ystod mis Rhagfyr, mae staff a disgyblion yr ysgol wedi bod yn cyfrannu tuag at ymgyrch 'RHOI' yr ysgol, gan gefnogi dwy elusen leol ' Banc Bwyd y Rhondda' ac elusen 'Cefnogi'r Digartref - De Cymru'. Ry'n ni wedi bod yn casglu nwyddau a bwydydd addas fesul dosbarth cofrestru, a braint oedd gallu trosglwyddo'n rhoddion i'r ddwy elusen bwysig hon. Diolch i bawb am eich caredigrwydd.
LLwyddiant Traws-Gwlad
LLongyfarfchiadau i ddau ddisgybl o Flwyddyn 7 ar ennill yng nghystadleuaeth sirol rhedeg traws-gwlad yn ddiweddar. Llwyddodd Rachel Thomas-Evans a Ben Hughes i gyrraedd y brig yn erbyn cynrychiolwyr o dros ddeugain o ysgolion. Gwych iawn!
Nadolig Llawen!
Dymuwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi gyd - a diolch am eich cefnogaeth Merry Christmas and a Happy New Year to you all! Thank you for your support.
Llwyddiant OLIVER!
Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i bawb a fu'n rhan o gynhyrchiad Oliver eleni. Ein braint oedd gwylio'r môr o dalent oedd i'w weld ar lwyfan y Parc a'r Dâr yr wythnos ddiwethaf. Diolch hefyd i deuluoedd y disgyblion am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod paratoi ac i staff yr ysgol am am roi o'u hamser a'u hymdrech eto eleni. Diolch i bawb a gefnogodd drwy brynu tocyn yn ogystal! Llongyfachiadau a diolch yn fawr i bawb!




