Gosodwn werth uchel ar gyfraniad gwaith cartref, i addysg ein disgyblion. I gefnogi hyn caiff y disgyblion Ddyddiadur Disgybl. Disgwylir i ddisgyblion gwblhau’r gwaith cartref a osodir a chofnodi’r gwaith yn eu Dyddiaduron Disgybl. Gofynnir i rieni lofnodi’r dyddiadur yn wythnosol.
Mae'n bwysig eich bod chi'n dod i'r arfer gweithio bob nos am o leiaf
-
1 awr ar gyfer blwyddyn 7
-
1.5 awr ar gyfer blwyddyn 8
-
2 awr ar gyfer blwyddyn 9
Os nad oes gennych chi waith cartref sydd yn para'r cyfnod, mae'n rhaid i chi lenwi'r awr â'r gweithgareddau canlynol. (Mae'n bwysig eich bod chi'n cofnodi'r gwaith hyn yn eich dyddiadur, er mwyn i'ch Tiwtor dosbarth tsiecio).
-
Darllen llyfr Saesneg/Cymraeg
-
Adolygu gwaith
-
Cyfddyddio eich dyddiadur gwaith cartref
-
Ymchwilio ar gyfer prosiect e.e ar y we
-
Paratoi ar gyfer gwaith dosbarth
-
Gwylio rhaglen ar S4C