Polisïau
Code of Conduct
Côd Ymddygiad
Mae pump rheol dosbarth a arddangosir ymhob ystafell ddysgu yn yr ysgol. Disgwylir i bob disgybl gydymffurfio gyda'r rheolau yma er mwyn bod y dysgu ar addysgu o'r safon uchaf.
Rheolau Dosbarth
-
Dilynwch gyfarwyddiadau'r athro y tro cyntaf.
-
Dewch yn brydlon ac yn barod i weithio gyda'r llyfrau /offer cywir
-
Un yn siarad pawb yn gwrando
-
Cadwch eich / traed / dwylo / offer a geiriau cas i'ch hun
-
Dim bwyta / cnoi yn y dosbarth
Mae pob athro pwnc yn monitro ymddygiad pob disgybl yn ystod pob gwers. Os oes sefyllfa pan na fydd disgybl yn dilyn y rheolau yma bydd yr athro yn cofnodi hyn ar y grid rheolau yn y trefnydd ac ar y daflen camau.
Bydd y wybodaeth yma yn cael ei fonitro'n ofalus a gweithredir yn llym mewn achosion o dorri'r rheolau yma.