Rydym wedi ymrwymo i godi safonau cyrhaeddiad pob un o’n disgyblion drwy’r holl ystod gallu ac oedran. Rhoir pwyslais arbennig ar y canlynol:
-
Creu a mynnu awyrgylch gadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth
-
Gosod disgwyliadau uchel i’n disgyblion i gyd
-
Gosod gwaith cartref rheolaidd
-
Hybu presenoldeb uchel a phrydlondeb
-
Gosod targedau heriol ar gyfer ysgol gyfan, adrannau ac unigolion ar gyfer gwella a monitro’n fanwl y cynnydd a wneir tuag at gyflawni’r targedau hyn
-
Rhoi clod ac anogaeth yn y dosbarth a defnyddio systemau gwobrwyo llwyddiannus i wobrwyo ymdrech a chyrhaeddiad
-
Darparu ystod eang o strategaethau cefnogi tu fewn a thu allan i’r dosbarth i gyfoethogi’r dysgu. Gall y rhain gynnwys: Clybiau gwaith cartref/adolygu, Cyrsiau preswyl, Cynllun mentora, Rhaglenni cefnogi astudio
-
Mae’n athrawon yn barod yn rhoi nifer fawr o oriau tu allan i oriau dysgu i gefnogi gwaith disgyblion
-
Trefnir clybiau astudio ac adolygu gan bob adran a rhydd y rhain gymorth ychwanegol trwy gydol y flwyddyn
-
Mae cynlluniau mentora a chefnogaeth astudio yn cynnig cyngor a chanllawiau ychwanegol pan fo’r arholiadau allanol yn nesau