Croeso i dudalen yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Adran yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddilyn y cwrs yma Yn ychwanegol i'r gwersi rydym yn ceisio sicrhau profiadau amrywiol i'r disgyblion. Yn flynyddol rydym yn trefnu ymweliadau, tripiau, cyrsiau ychwanegol a siaradwyr. Nod yr adran yw sicrhau bod sgiliau yn cael eu datblygu fel rhan naturiol o’i hastudiaethau a threfnir gwersi a chyrsiau yn ofalus gyda hyn mewn golwg. Mae'n adran fyrlymus, weithgar sy'n gweithio'n ddiwyd i hybu ymwybyddiaeth disgyblion o bwysicrwydd y maes yma o fewn cymdeithas.
Arweinydd Pwnc
-
Mrs Haf Matthews
Athrawon Pwnc
-
Mrs Sian Windsor
-
Mr Gethin Gwyn
Cyfnod Allweddol 4
Astudir BTEC Diploma Cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn CA4. Hybu deallusrwydd o’r maes Iechyd Gofal Cymdeithasol yw prif nod y cwrs. Mae’r cwrs yn sicr yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio o fewn y maes yma yn y dyfodol. Prif ffocysau’r cwrs yw;
-
Cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau galwedigaethol a gwybodaeth cynhwysfawr o’r pwnc.
-
Astudio rôl gweithwyr gofal iechyd, eu pertyhynas ac eu cyfrifoldebau tuag at eu cleientiaid.
Cyfnod Allweddol 5
Cynigir cwrs UG/Uwch sy’n baratoad delfrydol i fyfyrwyr sydd am fynd i faes Addysg Uwch a hyfforddiant galwedigaethol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ystod y flwyddyn/dwy flynedd, ceir cyfle i ddisgyblion:
-
Cynnal sesiynnau yn yr ysgolion cynradd er mwyn hyrwyddo elfen o iechyd a gofal cymdeithasol.
-
Datblygu dealltwriaeth o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol
-
Dadansoddi ac ymchwilio i holl wasanaethau a sefydliadau sydd yn cynnig gwasanaethau iechyd a gofal
-
Cael cyfle i ddatblygu sgiliau i ymdrin a chleifion a chleientiaid.
-
Wynebu cyfleoedd i ddatblygu amrediad o sgiliau a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer addysg uwch neu’r lle gwaith, e.e. cyfathrebu
-
Datyblygu sgiliau allweddol o fewn y pwnc, megis cyfathrebu, gweithio ag eraill, cymhwyso rhif a sgiliau technoleg gwybodaeth.
Dilyniant/Cyfleoedd Gyrfa
Oherwydd yr amrywiaeth eang o destunau a astudir o fewn y cwrs fe fydd yn profi i fod yn sylfaen ardderchog ar gyfer nifer o yrfaoedd megis Nyrsio, Dysgu Cynradd, Gweithwyr Cymdeithasol a gyrfaoedd o fewn y maes iechyd. Mae’r cwrs hefyd yn sicrhau dilyniant i astudio ymhellach ar gyfer Addysg Uwch.