Ein Gweledigaeth
Rydym yn Adran lwyddiannus, greadigol, ac egniol sydd bob tro yn hybu pwysigrwydd parch at bawb gyda’r pwyslais ar ddatblygu hyder a sgiliau ein disgyblion.
Mae Cymreictod a’r cwricwlwm Cymreig yn ganolog i’n gweledigaeth o ddatblygu dealltwriaeth ein disgyblion o lenyddiaeth a’r iaith Saesneg, gan bwysleisio dealltwriaeth o sut mae iaith yn cyfathrebu, ac felly gwir werthfawrogi ein sefyllfa o ddwyieithrwydd.
Mae’r Adran yn un allweddol fel pwnc craidd, sy’n sylweddoli ei chyfrifoldeb o hyrwyddo addysg Gymraeg yn ymarferol, trwy gefnogi agweddau dysgu ac addysgu trawsgwricwlaidd a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol, yn ogystal â datblygu pob unigolyn i’w lawn botensial.
Mae’r Adran yn rhannu a datblygu gweledigaeth greadigol o addysg a dysgu’r prif sgiliau Saesneg mewn awyrgylch Cymreig a phositif.
Saesneg Ar Draws Y Cyfnodau Allweddol
Mae Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cynnig cyfleoedd diddorol i ddisgyblion ymestyn eu profiadau o waith darllen, ysgrifennu a llafar. Mae’r dysgu’n thematig ac yn seiliedig ar holl sgiliau’r cwricwlwm.
Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae Saesneg yn bwnc deinamig sy’n cwmpasi nifer fawr o brofiadau a sgiliau sy’n paratoi yr unigolyn llawn am lwyddiant yn y dyfodol.
Yng Ngyfnod Allweddol 5, ein ffocws yw Llenyddiaeth a gwaith academaidd safonol. Mae nifer o’n myfyrwyr yn dewis astudio Saesneg yn y Brifysgol.
Arweinwyr Pwnc
-
Mrs Sian Riley
Athrawon Pwnc
- Mr David Mathias (Ail yn yr Adran)
- Miss Emily Adams
- Mr Rhys Richards
- Mrs Zoe Price
- Miss Carly Jones