Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Sul, Ebrill 28, 2024

Rhagarweiniad

Gall fod gan ddisgyblion anghenion addysgol arbennig naill ai drwy gydol, neu ar unrhyw adeg yn ystod, eu gyrfa ysgol. Mae’r ysgol hon yn sicrhau bod cynllunio cwricwlwm ac asesiad ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn cymryd i ystyriaeth math a maint yr anhawster a brofir gan y disgybl.

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys ar gyfer pob disgybl. Y Cwricwlwm Cenedlaethol yw ein man cychwyn sy’n addas ar gyfer anghenion penodol unigolion a grwpiau o blant. Wrth gynllunio, mae athrawon yn gosod targedau dysgu addas ac yn ymateb i anghenion dysgu amrywiol disgyblion. Mae gan leiafrif o ddisgyblion ofynion dysgu ac asesu a allai greu rhwystrau rhag dysgu.

Mae’r gofynion hyn yn debygol o godi o ganlyniad i anghenion addysgol arbennig disgybl. Mae athrawon yn cymryd y gofynion hyn i ystyriaeth ac yn gwneud darpariaeth, lle bo angen, i gynorthwyo unigolion neu grwpiau o blant a thrwy hynny eu galluogi i gymryd rhan yn effeithiol mewn gweithgareddau cwricwlwm ac asesu.

Nodau ac Amcanion

Nodau ac Amcanion Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yw :

  • creu awyrgylch sy’n addas ar gyfer anghenion addysgol arbennig pob disgybl

  • sicrhau bod anghenion addysgol disgyblion yn cael eu hadnabod a’u hasesu ac y darperir ar eu cyfer

  • gwneud yn glir disgwyliadau’r holl bartneriaid yn y broses

  • adnabod rolau a chyfrifoldebau staff wrth ddarparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig disgyblion

  • galluogi pob plentyn i gael mynediad llawn i holl elfennau cwricwlwm ysgol.

Partneriaeth â Rhieni

Ar bob cam o’r broses anghenion arbennig, mae Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn rhoi gwybodaeth gyflawn i rieni ac yn rhoi cyfle iddynt fod yn rhan o’r broses. Cymerwn i ystyriaeth ddymuniadau, teimladau a gwybodaeth y rhieni ar bob cam. Anogwn rhieni i fynychu pob cyfarfod rhieni yn ogystal â chyfarfodydd rhieni ychwanegol ar gyfer y rhai sydd â phlant ag AAA.

Anghenion ychwanegol ac anableddau

The Basic Skills Agency Quality Mark

Invertor in People Buddsoddwr Mewn Pobl

Eco Schools - Eco Sgolion

Welsh Network of Healthy Schools  - Cynlluniau Ysgolion Lach Rhwydwaith Cymru

HWB Rygbi

PDPA APLP